
Dear Parents and Guardians
Cathays High is an 11-19 mixed comprehensive school serving the heart of Cardiff, maintained by the City and County of Cardiff Local Education Authority.
We are a successful school where our students show high levels of success academically at GCSE, AS, A Level and other examinations as well as a wide range of extra-curricular activities.
We have students of all abilities attending the school and we benefit from parental choice with around 45% of our students coming from outside the designated primary school catchment area. About 150 students enter year 7 each year and the vast majority continue with their education post-16. This gives us a thriving and lively sixth-form.
Major investments in computer technology as well as our sports facilities on the school site, at Maindy Stadium and Heath Park have extended provision and opportunities available for our students and the local community.
Cathays High benefits from a hard-working, well-qualified and dedicated team of teachers and support staff. We are proud to be a multi-ethnic and multi-cultural school and we are fortunate to have pleasant, conscientious students and very supportive parents.
As a school we aspire to high standards of excellence and standards from our students in all that they do. We aim to ensure that students feel happy and safe as school as they work towards their future academic and personal success. We value all our members equally, regardless of gender, colour, creed, ability, class, age or status.
Cathays High is first and foremost a place of work, but we believe our school is more than about academic success. It is about being part of a wider community; it is about giving and taking opportunities; it is about being involved in a wide range of extra-curricular activities that broaden educational experience; it is about preparing our students for life in the 21st Century.
I hope you will enjoy reading about Cathays High. There is always a warm welcome for you to visit us during the working day when we are happy to answer any questions you have. Please contact us to make an appointment to be shown around the school.
I look forward to meeting you.
Headteacher: Mr. R Phillips


Annwyl Rieni a Gwarcheidwaid,
Mae Ysgol Uwchradd Cathays yn ysgol gyfun gymysg 11-19 oed sy’n gwasanaethu canol dinas Caerdydd a gynhelir gan Awdurdod Addysg Lleol Dinas a Sir Caerdydd.
Rydym ni’n ysgol lwyddianus lle mae ein myfyrwyr yn dangos llwyddiant academaidd yn lefel TGAU, UG, U a mewn arholiadau eraill, yn ogystal â mewn ystod eang o weithgareddau all-gyrsiol.
Mae gennym ni fyfyrwyr o bob gallu yn mynychu’r ysgol ac rydym yn elwa oherwydd dewis rhieni gyda thia 45% o’n myfyrwyr yn dod o du allan i’r dalgylch cynradd penodedig. Mae tua 150 o fyfyrwyr yn ymuno â blwyddyn 7 bob blwyddyn, a’r rhan fwyaf ohonynt yn parhau gyda’u haddysg ôl 16. Mae hyn yn rhoi i ni chweched dosbarth llewyrchus a bywiog.
Mae buddsoddi mawr mewn technoleg cyfrifiadurol yn ogystal â’n cyfleusterau chwaraeon ar safle’r ysgol, Stadiwm Maindy a Pharc Y Waun wedi ymestyn darpariaeth a chyfleoedd i’n myfyrwyr a’r gymuned leol.
Mae Ysgol Uwchradd Cathays yn elwa o gael tîm o athrawon a gweithwyr cefnogol ymroddgar â chymwysterau da. Rydym yn falch o fod yn ysgol amlethnig ac amlddiwylliedig ac yn ffodus i gael myfyrwyr dymunol, cydwybodol a rhieni cefnogol dros ben.
Fel ysgol, rydym yn anelu at safonau rhagorol gan ein myfyrwyr ym mhob peth maen nhw’n eu gwneud. Rydym yn ceisio sicrhau bod y myfyrwyr yn teimlo’n hapus ac yn ddiogel yn yr ysgol wrth iddyn nhw weithio tuag at lwyddiant academaidd a phersonol yn y dyfodol. Rydym yn rhoi gwerth cyfartal i bob aelod beth bynnag eu cenedl, lliw, cred, gallu, dosbarth, oed neu statws.
Mae Ysgol Uwchradd Cathays yn gyntaf oll yn lle gwaith, ond rydym yn credu bod ein hysgol yn cynnig mwy na llwyddiant academaidd yn unig. Mae’n paratoi plant ar gyfer bod yn aelod o’r gymuned ehangach; rhoi a chymryd cyfleoedd; cymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau all-gyrsiol sy’n ehangu’r profiad addysgol; mae’n paratoi ein myfyrwyr ar gyfer bywyd yn y 21ain ganrif.
Gobeithio y byddwch chi’n mwynhau darllen am Ysgol Uwchradd Cathays. Mae croeso cynnes bob amser i chi ymweld â ni yn ystod y dydd pan fyddwn ni’n hapus i ateb unrhyw gwestiwn. Cysylltwch â ni i drefni taith o gwmpas yr ysgol.
Edrychaf ymlaen at gwrdd â chi.
Pennaeth. Mr. R. Phillips